Exodus 30:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Gosod yr allor o flaen y gorchudd sydd wrth arch y dystiolaeth, ac o flaen y drugareddfa ar yr arch; yno byddaf yn cyfarfod â thi.

7. Bydd Aaron yn llosgi arogldarth peraidd arni bob bore wrth baratoi'r lampau,

8. ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau.

9. Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch â thywallt diodoffrwm arni.

10. Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud â gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD.”

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

Exodus 30