Exodus 29:30-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Bydd y mab a fydd yn ei ddilyn fel offeiriad yn eu gwisgo am saith diwrnod pan ddaw i babell y cyfarfod i wasanaethu yn y cysegr.

31. “Cymer hwrdd yr ordeinio, a berwi ei gig mewn lle cysegredig;

32. yna bydd Aaron a'i feibion yn bwyta cig yr hwrdd, a'r bara sydd yn y fasged, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

33. Y maent i fwyta'r pethau y gwnaed cymod â hwy adeg eu hordeinio a'u cysegru; ni chaiff neb arall eu bwyta am eu bod yn gysegredig.

34. Os gadewir peth o gig yr ordeinio neu o'r bara yn weddill hyd y bore, yr wyt i'w losgi â thân; ni cheir ei fwyta, am ei fod yn gysegredig.

35. “Gwna i Aaron a'i feibion yn union fel y gorchmynnais iti, a chymer saith diwrnod i'w hordeinio.

36. Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod; gwna hefyd gymod dros yr allor wrth iti offrymu aberth dros bechod, ac eneinia'r allor i'w chysegru.

Exodus 29