Exodus 29:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Cymer un o'r hyrddod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;

16. yna lladd di'r hwrdd a chymryd ei waed a'i daenu o amgylch yr allor.

17. Tor ef yn ddarnau, ac wedi golchi ei berfedd a'i goesau, gosod hwy gyda'r darnau a'r pen;

18. yna llosga'r hwrdd i gyd ar yr allor. Poethoffrwm i'r ARGLWYDD ydyw; y mae'n arogl peraidd ac yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

19. “Cymer yr hwrdd arall, a gwna i Aaron a'i feibion osod eu dwylo ar ei ben;

Exodus 29