Exodus 28:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.

17. Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;

18. yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;

19. yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;

20. yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; byddant i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.

21. Enwir y deuddeg maen ar ôl meibion Israel, a bydd pob un fel sêl ac enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.

Exodus 28