Exodus 26:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,

17. a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl.

18. Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,

19. a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon;

20. ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrâm

Exodus 26