Exodus 25:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

7. meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

8. Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.

9. Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.

10. “Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.

11. Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.

Exodus 25