Exodus 23:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Paid â lledaenu straeon ofer. Paid ag ymuno â'r drygionus i fod yn dyst celwyddog.

2. Paid â dilyn y lliaws i wneud drwg, nac ochri gyda'r mwyafrif i wyrdroi barn wrth dystio mewn achos cyfreithiol.

3. Paid â dangos ffafr tuag at y tlawd yn ei achos.

4. “Pan ddoi ar draws ych dy elyn neu ei asyn yn crwydro, dychwel ef iddo.

Exodus 23