Exodus 21:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Ond os bu niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd,

24. llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25. llosgiad am losgiad, clwyf am glwyf, a chlais am glais.

26. “Pan yw rhywun yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, a'i ddifetha, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y llygad.

27. Os yw'n taro allan ddant ei gaethwas neu ei gaethferch, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y dant.

Exodus 21