Exodus 21:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ond os yw'r caeth yn byw am ddiwrnod neu ddau, na fydded cosbi, oherwydd ei eiddo ef ydyw.

22. “Pan yw dynion wrth ymladd â'i gilydd yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli ei phlentyn, ond heb gael niwed pellach, y mae'r dyn i dalu'r ddirwy sy'n ddyledus i'w gŵr ac a bennwyd gan y barnwyr.

23. Ond os bu niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd,

24. llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

Exodus 21