Exodus 20:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Na ladrata.

16. “Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

17. “Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”

18. Pan welodd yr holl bobl y taranau a'r mellt, yr utgorn yn seinio a'r mynydd yn mygu, safasant o hirbell mewn petruster,

19. a dweud wrth Moses, “Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid â gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw.”

Exodus 20