Exodus 20:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.

13. “Na ladd.

14. “Na odineba.

15. “Na ladrata.

16. “Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

Exodus 20