Exodus 2:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Priododd gŵr o dylwyth Lefi ag un o ferched Lefi.

2. Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a phan welodd ei fod yn dlws, fe'i cuddiodd am dri mis.

3. Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio â chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil.

4. Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo.

5. Daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon tra oedd ei morynion yn cerdded ar y lan, a phan welodd y cawell yng nghanol yr hesg, anfonodd un ohonynt i'w nôl.

6. Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, “Un o blant yr Hebreaid yw hwn.”

7. Yna gofynnodd chwaer y plentyn i ferch Pharo, “A gaf fi fynd i chwilio am famaeth o blith gwragedd yr Hebreaid, iddi fagu'r plentyn iti?”

8. Atebodd merch Pharo, “Dos.” Felly aeth y ferch ymaith a galw mam y plentyn.

9. Dywedodd merch Pharo wrth honno, “Cymer y plentyn hwn a'i fagu imi, ac fe roddaf finnau dâl iti.” Felly cymerodd y wraig y plentyn a'i fagu.

10. Wedi i'r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a'i enwi'n Moses, oherwydd iddi ddweud, “Tynnais ef allan o'r dŵr.”

11. Un diwrnod, wedi i Moses dyfu i fyny, aeth allan at ei bobl ac edrych ar eu beichiau. Gwelodd Eifftiwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr,

12. ac wedi edrych o'i amgylch a gweld nad oedd neb yno, lladdodd Moses yr Eifftiwr a'i guddio yn y tywod.

13. Pan aeth allan drannoeth a gweld dau Hebrëwr yn ymladd â'i gilydd, gofynnodd i'r un oedd ar fai, “Pam yr wyt yn taro dy gyfaill?”

Exodus 2