Exodus 19:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. trwy ei labyddio neu ei saethu, ond peidied neb â'i gyffwrdd â'i law. Prun bynnag ai dyn ai anifail ydyw, ni chaiff fyw.’ Nid ydynt i ddod i fyny i'r mynydd nes y cenir yn hir ar y corn hwrdd.”

14. Yna aeth Moses i lawr o'r mynydd at y bobl, a'u cysegru; a golchasant eu dillad.

15. Dywedodd wrthynt, “Byddwch barod erbyn y trydydd dydd, a pheidiwch â mynd yn agos at wraig.”

16. Ar fore'r trydydd dydd, daeth taranau a mellt a chwmwl tew ar y mynydd, ac yr oedd sŵn yr utgorn mor gryf nes i'r holl bobl oedd yn y gwersyll ddychryn.

17. Yna daeth Moses â'r bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â Duw, ac aethant i sefyll wrth odre'r mynydd.

18. Yr oedd Mynydd Sinai yn fwg i gyd, oherwydd i'r ARGLWYDD ddod i lawr arno mewn tân; yr oedd y mwg yn codi fel mwg ffwrn, a'r mynydd i gyd yn crynu drwyddo.

19. Wrth i sŵn yr utgorn gryfhau, llefarodd Moses, ac atebodd Duw ef yn y daran.

20. Yna disgynnodd yr ARGLWYDD ar ben Mynydd Sinai; galwodd Moses i ben y mynydd, ac aeth yntau i fyny.

21. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos i lawr a rhybuddia'r bobl, rhag iddynt frysio i rythu ar yr ARGLWYDD ac i lawer ohonynt farw.

22. Rhaid i'r offeiriaid sy'n nesáu at yr ARGLWYDD hefyd eu cysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro.”

23. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Ni all y bobl ddod i fyny i Fynydd Sinai, oherwydd iti ein rhybuddio i osod ffin o amgylch y mynydd a'i gysegru.”

24. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos i lawr, a thyrd ag Aaron i fyny gyda thi, ond paid â gadael i'r offeiriaid a'r bobl ruthro i fyny at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro.”

Exodus 19