Exodus 18:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Llawenychodd Jethro oherwydd yr holl bethau da a wnaeth yr ARGLWYDD i Israel trwy eu hachub o law'r Eifftiaid,

10. a dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a'ch achubodd o law'r Eifftiaid ac o law Pharo.

11. Gwn yn awr fod yr ARGLWYDD yn fwy na'r holl dduwiau, oherwydd fe achubodd y bobl o law'r Eifftiaid a fu'n eu trin yn drahaus.”

12. Yna cyflwynodd Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, boethoffrwm ac ebyrth i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gydag ef ym mhresenoldeb Duw.

13. Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr.

Exodus 18