Exodus 16:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai.

22. Ar y chweched dydd casglasant ddwywaith cymaint o fara, dau omer yr un, a daeth holl swyddogion y cynulliad at Moses i fynegi hyn iddo.

23. Dywedodd yntau wrthynt, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.’ Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore.”

Exodus 16