Exodus 15:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Dywedodd y gelyn, ‘Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd;rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo;tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.’

10. Ond pan chwythaist ti â'th anadl, gorchuddiodd y môr hwy,nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion.

11. Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD?Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd,yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?

12. Pan estynnaist dy ddeheulaw,llyncodd y ddaear hwy.

Exodus 15