Exodus 15:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr,a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.

5. Daeth llifogydd i'w gorchuddio,a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.

6. Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus;dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn.

7. Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr;gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl.

8. Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd;safodd y ffrydiau yn bentwr,a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y môr.

9. Dywedodd y gelyn, ‘Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd;rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo;tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.’

Exodus 15