Exodus 14:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yn ystod gwyliadwriaeth y bore, edrychodd yr ARGLWYDD ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, a daliodd hwy

25. trwy gloi olwynion eu cerbydau a'i gwneud yn anodd iddynt yrru ymlaen. Yna dywedodd yr Eifftiaid, “Gadewch inni ffoi oddi wrth Israel, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aifft.”

26. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn dy law allan dros y môr er mwyn i'r dyfroedd lifo'n ôl dros yr Eifftiaid a'u cerbydau a'u marchogion.”

27. Felly estynnodd Moses ei law dros y môr, ac erbyn y bore yr oedd y môr wedi dychwelyd i'w le. Ceisiodd yr Eifftiaid ffoi rhagddo, ond bwriodd yr ARGLWYDD hwy i ganol y môr.

Exodus 14