Exodus 12:41-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, i'r diwrnod, aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aifft.

42. Am i'r ARGLWYDD y noson honno gadw gwyliadwriaeth i'w dwyn allan o'r Aifft, bydd holl blant Israel ar y noson hon yn cadw gwyliadwriaeth i'r ARGLWYDD dros y cenedlaethau.

43. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Dyma ddeddf y Pasg: nid yw'r un estron i fwyta ohono,

44. ond caiff pob caethwas a brynwyd ag arian ei fwyta, os yw wedi ei enwaedu;

45. ni chaiff yr estron na'r gwas cyflog ei fwyta.

46. Rhaid ei fwyta mewn un tŷ; nid ydych i fynd â dim o'r cig allan o'r tŷ, ac nid ydych i dorri'r un asgwrn ohono.

Exodus 12