Exodus 10:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd eu rhyddhau.

28. Dywedodd Pharo wrtho, “Dos ymaith oddi wrthyf, a gofala na fyddi'n gweld fy wyneb eto, oherwydd ar y dydd y byddi'n fy ngweld, byddi farw.”

29. Atebodd Moses, “Fel y mynni di; ni welaf dy wyneb byth mwy.”

Exodus 10