Exodus 10:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Dywedodd yntau wrthynt, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi os byth y rhyddhaf chwi a'ch rhai bychain! Edrychwch, rhyw ddrwg sydd gennych mewn golwg.

11. Na, y gwŷr yn unig a gaiff fynd i addoli'r ARGLWYDD, oherwydd dyna oedd eich dymuniad.” Yna fe'u gyrrwyd allan o ŵydd Pharo.

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law dros wlad yr Aifft er mwyn i'r locustiaid ddisgyn ar dir yr Aifft, a bwyta holl lysiau'r ddaear a'r cyfan a adawyd ar ôl y cenllysg.”

13. Felly estynnodd Moses ei wialen dros wlad yr Aifft, ac achosodd yr ARGLWYDD i'r dwyreinwynt chwythu ar y wlad trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy'r nos; erbyn y bore yr oedd y dwyreinwynt wedi dod â'r locustiaid.

14. Daeth y locustiaid i fyny dros yr holl wlad a disgyn ym mhob ardal yn yr Aifft. Ni welwyd y fath bla trwm o locustiaid erioed o'r blaen, ac ni welir ei debyg eto.

15. Yr oeddent yn gorchuddio wyneb y tir nes bod y wlad i gyd yn ddu, ac yr oeddent yn bwyta holl lysiau'r ddaear a holl ffrwythau'r coed oedd wedi eu gadael ar ôl y cenllysg; nid oedd dim gwyrdd ar ôl ar y coed na'r planhigion trwy holl wlad yr Aifft.

16. Brysiodd Pharo i anfon am Moses ac Aaron a dweud, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw ac yn eich erbyn chwithau.

17. Yn awr, maddau fy mhechod am y tro hwn yn unig, a gweddïwch ar i'r ARGLWYDD eich Duw symud ymaith y pla marwol hwn oddi wrthyf.”

18. Felly aeth Moses allan o ŵydd Pharo, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD.

Exodus 10