Exodus 1:2-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,

3. Issachar, Sabulon a Benjamin,

4. Dan a Nafftali, Gad ac Aser.

5. Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft.

6. Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno.

7. Ond yr oedd plant Israel yn ffrwythlon ac yn amlhau'n ddirfawr, ac aethant mor gryf a niferus nes bod y wlad yn llawn ohonynt.

8. Yna daeth brenin newydd i deyrnasu ar yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff.

9. Dywedodd ef wrth ei bobl, “Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni.

10. Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno â'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad.”

Exodus 1