Esther 8:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. “Os gwêl y brenin yn dda, ac os cefais ffafr ganddo, a bod y mater yn dderbyniol ganddo, a minnau yn ei foddhau, anfoned wŷs i alw'n ôl y llythyrau a ysgrifennodd Haman fab Hammedatha yr Agagiad gyda'r bwriad o ddifa'r Iddewon sydd ym mhob un o daleithiau'r brenin.

6. Sut y gallaf edrych ar y trybini sy'n dod ar fy mhobl? Sut y gallaf oddef gweld dinistr fy nghenedl?”

7. Yna dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther a Mordecai'r Iddew, “Yr wyf wedi rhoi tŷ Haman i Esther, a chrogwyd yntau ar grocbren am iddo ymosod ar yr Iddewon.

8. Yn awr ysgrifennwch chwi fel y mynnoch ynglŷn â'r Iddewon yn fy enw i, a selio'r ddogfen â'r sêl frenhinol, oherwydd ni ellir newid gwŷs a ysgrifennwyd yn enw'r brenin ac a seliwyd â'r sêl frenhinol.”

9. Yna, ar y trydydd dydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, galwyd ynghyd ysgrifenyddion y brenin. Ysgrifennwyd, yn union fel y gorchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, at bendefigion, rheolwyr a thywysogion y taleithiau o India i Ethiopia, cant dau ddeg a saith o daleithiau, pob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun, ac at yr Iddewon yn eu hysgrifen a'u hiaith hwythau.

10. Ysgrifennwyd y wŷs yn enw'r Brenin Ahasferus, a'i selio â'r sêl frenhinol. Anfonwyd llythyrau gyda negeswyr yn marchogaeth ar feirch cyflym wedi eu magu yn stablau'r brenin.

11. Ynddynt rhoddodd y brenin hawl i'r Iddewon oedd ym mhob dinas i ymgasglu a'u hamddiffyn eu hunain, ac i ddifa, lladd a dinistrio byddin unrhyw genedl neu dalaith a ymosodai arnynt, a'u plant a'u gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo.

12. Yr oeddent i wneud hyn trwy holl daleithiau'r Brenin Ahasferus ar ddiwrnod penodedig, y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.

Esther 8