1. Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod â llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo.
2. Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.
3. Dywedodd y brenin, “Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?” Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.