Esther 2:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Bydded i'r ferch sy'n ennill ffafr y brenin ddod i'r orsedd yn lle Fasti.” Yr oedd y syniad yn dderbyniol gan y brenin, ac fe wnaeth felly.

5. Yr oedd Iddew yn byw yn Susan y brifddinas o'r enw Mordecai fab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Benjamin.

6. Yr oedd wedi ei gymryd o Jerwsalem i'r gaethglud gyda Jechoneia brenin Jwda, a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon.

7. Yr oedd ef wedi mabwysiadu ei gyfnither Hadassa, sef Esther, am ei bod yn amddifad. Yr oedd hi'n ferch deg a phrydferth; a phan fu farw ei thad a'i mam, mabwysiadodd Mordecai hi'n ferch iddo'i hun.

8. Pan gyhoeddwyd gair a gorchymyn y brenin a chasglu llawer o ferched ifainc i'r palas yn Susan o dan ofal Hegai, daethpwyd ag Esther i dŷ'r brenin a oedd yng ngofal Hegai, ceidwad y gwragedd.

9. Yr oedd y ferch yn dderbyniol yn ei olwg, a chafodd ffafr ganddo. Trefnodd iddi gael ar unwaith ei hoffer coluro a'i dogn bwyd, a rhoddodd iddi saith o forynion golygus o dŷ'r brenin, a'i symud hi a'i morynion i le gwell yn nhŷ'r gwragedd.

10. Nid oedd Esther wedi sôn am ei chenedl na'i thras, am i Mordecai orchymyn iddi beidio.

11. Bob dydd âi Mordecai heibio i gyntedd tŷ'r gwragedd er mwyn gwybod sut yr oedd Esther, a beth oedd yn digwydd iddi.

12. Ar ddiwedd deuddeg mis, sef y cyfnod o baratoi a osodwyd ar gyfer y gwragedd—chwe mis gydag olew a myrr, a chwe mis gyda pheraroglau ac offer coluro'r gwragedd—dôi tro pob merch i fynd at y Brenin Ahasferus.

Esther 2