Esther 2:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Aethpwyd ag Esther i mewn i'r palas at y Brenin Ahasferus yn y degfed mis, sef Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad.

17. Carodd y brenin Esther yn fwy na'r holl wragedd, a dangosodd fwy o ffafr a charedigrwydd tuag ati hi na thuag at yr un o'r gwyryfon eraill; rhoddodd goron frenhinol ar ei phen a'i gwneud yn frenhines yn lle Fasti.

18. Yna gwnaeth y brenin wledd fawr i'w holl dywysogion a'i weision er mwyn anrhydeddu Esther; hefyd cyhoeddodd ŵyl ym mhob talaith, a rhannu anrhegion yn hael.

Esther 2