Esther 10:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gosododd y Brenin Ahasferus dreth ar yr ymerodraeth ac ar ynysoedd y môr.

2. Ac am weithredoedd nerthol a grymus y brenin, a'r modd yr anrhydeddodd Mordecai, onid yw'r hanes wedi ei ysgrifennu yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Persia?

3. Oherwydd Mordecai'r Iddew oedd y nesaf at y Brenin Ahasferus; yr oedd yn fawr ymysg yr Iddewon ac yn gymeradwy gan lawer iawn o'i frodyr, am ei fod yn ceisio gwneud lles i'w bobl ac yn hyrwyddo ffyniant ei holl genedl.

Esther 10