Esra 8:26-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Rhoddais iddynt chwe chant a hanner o dalentau arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur,

27. ac ugain o flychau aur gwerth mil o ddariciau, a dau lestr o bres melyn coeth, mor werthfawr ag aur.

28. A dywedais wrthynt, “Yr ydych chwi a'r llestri yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac offrwm gwirfoddol i ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid yw'r arian a'r aur.

29. Gwyliwch drostynt a'u cadw nes eu trosglwyddo i ystafelloedd tŷ'r ARGLWYDD yng ngŵydd penaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel sydd yn Jerwsalem.”

30. Yna cymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid y swm o arian ac aur a'r llestri i'w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw.

31. Ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf cychwynasom o afon Ahafa i fynd i Jerwsalem, ac yr oedd ein Duw gyda ni, ac fe'n gwaredodd o law gelynion a lladron pen-ffordd.

32. Wedi cyrraedd Jerwsalem cawsom orffwys am dridiau.

Esra 8