Esra 8:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. O deulu Asgad, Johanan fab Haccatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.

13. Ac yn olaf, o deulu Adonicam, y rhai canlynol: Eliffelet, Jehiel a Semeia, a chwe deg o ddynion gyda hwy;

14. ac o deulu Bigfai, Uthai a Sabbud, a saith deg o ddynion gyda hwy.

15. Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon sy'n llifo i afon Ahafa a gwersyllu yno dridiau. Wedi bwrw golwg dros y bobl a'r offeiriaid, cefais nad oedd Lefiad yn eu plith.

Esra 8