Esra 5:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ailadeiladu tŷ Dduw yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi Duw gyda hwy yn eu cefnogi.

3. Ond ar unwaith daeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr atynt a gofyn, “Pwy a roes ganiatâd i chwi ailadeiladu'r tŷ hwn a gorffen ei goedio?”

4. Gofynasant hefyd, “Beth yw enwau'r rhai sy'n codi'r adeilad hwn?”

5. Ond yr oedd eu Duw yn gofalu am henuriaid yr Iddewon, ac ni chawsant eu rhwystro nes i adroddiad fynd at Dareius ac iddynt gael ateb ar y mater.

Esra 5