17. Dyma ateb y brenin: “At Rehum y rhaglaw a Simsai yr ysgrifennydd a'r gweddill o'u cefnogwyr sy'n byw yn Samaria ac ym mhob rhan o dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, cyfarchion!
18. Fe gyfieithwyd y llythyr a anfonasoch a'i ddarllen yn fy ngŵydd.
19. Ar fy ngorchymyn gwnaethpwyd ymchwiliad, a darganfod i'r ddinas hon wrthryfela yn erbyn brenhinoedd ers amser maith, a bod brad a gwrthryfel wedi codi ynddi.
20. Bu brenhinoedd cryfion yn teyrnasu dros Jerwsalem a thros holl dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a rhoddwyd iddynt dreth, teyrnged a tholl.
21. Felly gorchmynnwch i'r dynion hyn beidio ag ailadeiladu'r ddinas nes cael caniatâd gennyf fi.
22. Gofalwch beidio â bod yn esgeulus yn hyn o beth, rhag i'r frenhiniaeth gael niwed pellach.”