Esra 2:27-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Gwŷr Michmas, cant dau ddeg a dau;

28. gwŷr Bethel ac Ai, dau gant dau ddeg a thri.

29. Teulu Nebo, pum deg a dau;

30. teulu Magbis, cant pum deg a phedwar;

31. teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;

32. teulu Harim, tri chant dau ddeg;

33. teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg a phump;

34. teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;

35. teulu Senaa, tair mil chwe chant tri deg.

36. Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;

37. teulu Immer, mil pum deg a dau;

38. teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;

Esra 2