Esra 10:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Yn awr cyffeswch gerbron ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid; gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth bobloedd y wlad a'r merched estron.”

12. Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn.

13. Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

14. Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym.”

Esra 10