Eseia 9:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen.

2. Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr;y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudewa gafodd lewyrch golau.

3. Amlheaist orfoledd iddynt,chwanegaist lawenydd;llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf,ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.

4. Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt,a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd,a'r ffon oedd gan eu gyrrwr,fel yn nydd Midian.

Eseia 9