Eseia 7:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. a chaiff ganddynt ddigon o laethi fedru bwyta menyn;canys bwyteir menyn a mêlgan bob un a adewir yn y wlad.

23. Yn y dydd hwnnwbydd pob man lle bu mil o winwydd,gwerth mil o ddarnau arian,yn fieri ac yn ddrain.

24. Daw dynion yno â saethau a bwâu,canys bydd mieri a drain ym mhobman.

25. Ni ddaw neb i'r llechweddaulle bu'r gaib unwaith yn trin,rhag ofn y mieri a'r drain;byddant yn lle i ollwng gwartheg iddo,ac yn gynefin defaid.

Eseia 7