Eseia 66:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. A byddaf yn dewis rhai ohonynt yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” medd yr ARGLWYDD.

22. “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd,yr wyf fi yn eu creu, yn parhau ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD,“felly y parha eich had a'ch enw chwi.

23. O fis i fis, o Saboth i Saboth,daw pob cnawd i ymgrymu o'm blaen,” medd yr ARGLWYDD.

24. “Ac ânt allan a gweldcelanedd y rhai a bechodd yn f'erbyn;ni bydd eu pryf yn marw,na'u tân yn diffodd;a byddant yn ffiaidd gan bawb.”

Eseia 66