Eseia 66:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear fy nhroedfainc;ple, felly, y codwch dŷ i mi,a phle y caf fan i orffwys?

2. Fy llaw i a wnaeth y pethau hyn i gyd,a'r eiddof fi yw pob peth,” medd yr ARGLWYDD.“Ond fe edrychaf ar y truan,yr un o ysbryd gostyngedig,ac sy'n parchu fy ngair.

3. “Prun ai lladd ych ai lladd dyn,ai aberthu oen ai tagu ci,ai offrymu bwydoffrwm ai aberthu gwaed moch,ai arogldarthu thus ai bendithio eilun,dewis eu ffordd eu hunain y maent,ac ymhyfrydu yn eu ffieidd-dra

Eseia 66