Eseia 65:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Gorfoleddaf yn Jerwsalem,llawenychaf yn fy mhobl;ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod.

20. Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni,na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd;llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd,a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.

21. Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt,yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth;

22. ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu,nac yn plannu ac arall yn bwyta.Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden,a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.

23. Ni fyddant yn llafurio'n ofer,nac yn magu plant i drallod;cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt,hwy a'u hepil hefyd.

Eseia 65