12. dedfrydaf chwi i'r cleddyf,a'ch darostwng i gyd i'ch lladd;canys gelwais, ond ni roesoch ateb,lleferais, ond ni wrandawsoch.Gwnaethoch bethau sy'n atgas gennyf,a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd.”
13. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:“Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu;bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu;bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio;
14. bydd fy ngweision yn canu o lawenydda chwithau'n griddfan mewn gofid calon,ac yn galaru mewn ing.
15. Erys eich enw yn felltith gan f'etholedigion;bydd yr Arglwydd DDUW yn dy ddifa,ond fe rydd enw gwahanol ar ei weision.
16. Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendithyn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd,a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llwyn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd.”“Anghofir y treialon gynt,ac fe'u cuddir o'm golwg.
17. Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd;ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt.
18. Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baidam fy mod i yn creu,ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd,a'i phobl yn llawenydd.