Eseia 64:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ac nid oes neb yn galw ar dy enw,nac yn trafferthu i afael ynot;cuddiaist dy wyneb oddi wrthym,a'n traddodi i afael ein camweddau.

8. Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad;ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd;gwaith dy ddwylo ydym i gyd.

9. Paid â digio'n llwyr, ARGLWYDD,na chofio camwedd am byth.Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd.

10. Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch;y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd.

11. Y mae ein tŷ sanctaidd a hardd,lle y byddai'n hynafiaid yn dy foliannu,wedi mynd yn lludw,a phob peth annwyl gennym yn anrhaith.

Eseia 64