Eseia 62:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. na rhoi llonydd iddo,nes iddo sefydlu Jerwsalem,a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.

8. Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol,“Ni roddaf dy ŷd byth eto'n ymborth i'th elyn,ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano;

9. ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta,ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano;y rhai a'i cynnull fydd yn yfedoddi mewn i gynteddau fy nghysegr.”

10. Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth,paratowch ffordd i'r bobloedd;codwch briffordd a symudwch y cerrig,dyrchafwch arwydd i'r bobloedd.

11. Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDDi bellafoedd y ddaear,“Dywedwch wrth ferch Seion,‘Y mae dy achubydd yn dyfod;y mae ei wobr yn ei law,ac y mae ei dâl ganddo.’ ”

Eseia 62