Eseia 59:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub,na'i glust yn rhy drwm i glywed;

2. ond eich camweddau chwi a ysgaroddrhyngoch a'ch Duw,a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wynebfel nad yw'n eich clywed.

3. Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed,a'ch bysedd gan gamwedd;y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd,a'ch tafod yn sibrwd twyll.

4. Nid oes erlynydd tegna diffynnydd gonest,ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll,yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.

5. Y maent yn deor wyau gwiberod,ac yn nyddu gwe pryf copyn;os bwyti o'r wyau, byddi farw;os torri un, daw neidr allan.

Eseia 59