Eseia 58:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. “Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais:tynnu ymaith rwymau anghyfiawn,a llacio clymau'r iau,gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd,a dryllio pob iau?

7. Onid rhannu dy fara gyda'r newynog,a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ,dilladu'r noeth pan y'i gweli,a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?

8. Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr,a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan;bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen,a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.

9. Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb,a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’“Os symudi'r gorthrwm ymaith,os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,

Eseia 58