Eseia 56:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder;oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod,a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio.

2. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly,a'r un sy'n glynu wrth hyn,yn cadw'r Saboth heb ei halogi,ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg.”

3. Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD,“Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl.”Na ddyweded yr eunuch, “Pren crin wyf fi.”

4. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothauac yn dewis y pethau a hoffafac yn glynu wrth fy nghyfamod,

Eseia 56