Eseia 55:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Gadawed y drygionus ei ffordd,a'r un ofer ei fwriadau,a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho,ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth.

8. “Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr ARGLWYDD.

9. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear,y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi,a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.

10. Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd,a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear,a gwneud iddi darddu a ffrwythloni,a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta,

11. felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau;ni ddychwel ataf yn ofer,ond fe wna'r hyn a ddymunaf,a llwyddo â'm neges.

Eseia 55