Eseia 55:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno;dewch, er eich bod heb arian;prynwch a bwytewch.Dewch, prynwch win a llaeth,heb arian a heb dâl.

2. Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara,a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni?Gwrandewch arnaf yn astud,a chewch fwyta'r hyn sydd dda,a mwynhau danteithion.

3. Gwrandewch arnaf, dewch ataf;clywch, a byddwch fyw.Gwnaf â chwi gyfamod tragwyddol,fy ffyddlondeb sicr i Ddafydd.

4. Edrych, rhois ef yn dyst i'r bobl,yn arweinydd a chyfarwyddwr i'r bobl.

5. Edrych, byddi'n galw ar genedl nid adweini,a bydd cenedl nad yw'n dy adnabod yn rhedeg atat;oherwydd yr ARGLWYDD dy Dduw,o achos Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu.”

6. Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael,galwch arno tra bydd yn agos.

7. Gadawed y drygionus ei ffordd,a'r un ofer ei fwriadau,a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho,ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth.

8. “Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr ARGLWYDD.

9. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear,y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi,a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.

Eseia 55