8. Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu—pwy oedd yn malio am ei dynged?Fe'i torrwyd o dir y rhai byw,a'i daro am drosedd fy mhobl.
9. Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus,a beddrod gyda'r troseddwyr,er na wnaethai niwed i nebac nad oedd twyll yn ei enau.
10. Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllioa gwneud iddo ddioddef.Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod,fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau,ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.