Eseia 53:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pwy a gredai'r hyn a glywsom?I bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?

2. Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn,ac fel gwreiddyn mewn tir sych;nid oedd na phryd na thegwch iddo,na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.

3. Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill,yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur;yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho,yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.

4. Eto, ein dolur ni a gymerodd,a'n gwaeledd ni a ddygodd—a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfoa'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.

5. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni,a'i ddryllio am ein camweddau ni;roedd pris ein heddwch ni arno ef,a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.

Eseia 53