Eseia 53:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pwy a gredai'r hyn a glywsom?I bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?

2. Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn,ac fel gwreiddyn mewn tir sych;nid oedd na phryd na thegwch iddo,na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.

3. Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill,yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur;yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho,yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.

Eseia 53