Eseia 52:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion;ymwisga yn dy ddillad godidog,O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd;oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyachneb dienwaededig nac aflan.

2. Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth;tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion.

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Gwerthwyd chwi am ddim,ac fe'ch gwaredir heb arian.”

4. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw:“Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio,ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos.

5. Ond yn awr, beth a gaf yma?” medd yr ARGLWYDD.“Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim,eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost,” medd yr ARGLWYDD,“a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd,drwy'r dydd.

6. Am hynny, fe gaiff fy mhobl adnabod fy enw;y dydd hwnnw cânt wybodmai myfi yw Duw, sy'n dweud, ‘Dyma fi.’ ”

7. Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesyddsy'n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth;sy'n dweud wrth Seion, “Dy Dduw sy'n teyrnasu.”

8. Clyw, y mae dy wylwyr yn codi eu llaisac yn bloeddio'n llawen gyda'i gilydd;â'u llygaid eu hunain y gwelantyr ARGLWYDD yn dychwelyd i Seion.

Eseia 52